Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

 

 

Adroddiad monitro sybsidiaredd gwanwyn 2014 (Medi 2013-Ebrill 2014

Dyddiad y papur:

Mai 2014

 

 

Cynhyrchwyd y papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil at ddefnydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Stephen Boyce yn y Gwasanaeth Ymchwil
Estyniad ffôn 8095
E-bost: Stephen.boyce@cymru.gov.uk

Description: \\GBA01\Home\OrrR\My Pictures\MRS2.PNG


 

Cynnwys

1.          Rhagymadrodd. 3

2.          Y broses monitro. 4

3.          Trosolwg o gynigion drafft yr UE a ddaeth i law (Medi 2013-Ebrill 2014) 5

3.1.     Cynigion deddfwriaethol yr UE nad oedden nhw’n codi pryderon o ran sybsidiaredd. 7

 

 


 

1.        Rhagymadrodd

O dan Reol Sefydlog 21, mae gan ‘bwyllgor cyfrifol’ yn y Cynulliad (sef y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar hyn o bryd) bŵer i ystyried deddfwriaeth ddrafft yr UE sy’n ymwneud â materion sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad neu â swyddogaethau Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol, er mwyn gweld a yw’n cydymffurfio ag egwyddor sybsidiaredd.

Ymgorfforwyd egwyddor sybsidiaredd yn Erthygl 5 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd:

1. The limits of Union competences are governed by the principle of conferral. The use of Union competences is governed by the principles of subsidiarity and proportionality.

2. Under the principle of conferral, the Union shall act only within the limits of the competences conferred upon it by the Member States in the Treaties to attain the objectives set out therein. Competences not conferred upon the Union in the Treaties remain with the Member States.

3. Under the principle of subsidiarity, in areas which do not fall within its exclusive competence, the Union shall act only if and in so far as the objectives of the proposed action cannot be sufficiently achieved by the Member States, either at central level or at regional and local level, but can rather, by reason of the scale or effects of the proposed action, be better achieved at Union level.

The institutions of the Union shall apply the principle of subsidiarity as laid down in the Protocol on the application of the principles of subsidiarity and proportionality. National Parliaments ensure compliance with the principle of subsidiarity in accordance with the procedure set out in that Protocol.

4. Under the principle of proportionality, the content and form of Union action shall not exceed what is necessary to achieve the objectives of the Treaties.

The institutions of the Union shall apply the principle of proportionality as laid down in the Protocol on the application of the principles of subsidiarity and proportionality.[1]

Yn ychwanegol, mae’r modd y cymhwysir yr egwyddor yn cael ei lywodraethu gan y Protocol ar Gymhwyso Egwyddorion Sybsidiaredd a Chymesuredd. Mae’r rhan sy’n berthnasol o ran gwaith y Cynulliad wedi’i chynnwys ym mharagraff cyntaf Erthygl 6:

Any national Parliament or any chamber of a national Parliament may, within eight weeks from the date of transmission of a draft legislative act, in the official languages of the Union, send to the Presidents of the European Parliament, the Council and the Commission a reasoned opinion stating why it considers that the draft in question does not comply with the principle of subsidiarity. It will be for each national Parliament or each chamber of a national Parliament to consult, where appropriate, regional parliaments with legislative powers. [pwyslais y Gwasanaeth Ymchwil][2]

 

2.        Y broses monitro

I sicrhau bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cyflawni ei swyddogaeth ynglŷn â monitro sybsidiaredd yn effeithiol fel y’i nodir yn y Rheolau Sefydlog, mae swyddogion y Cynulliad yn monitro holl gynigion drafft yr UE ar gyfer deddfwriaeth sy’n gymwys i Gymru. Gwneir hyn mewn modd systemataidd er mwyn gweld a ydyn nhw’n codi pryderon o ran sybsidiaredd. Mae’r modd y mae swyddogion y Cynulliad yn monitro’r cynigion hyn wedi’i amlinellu isod er gwybodaeth:

¡  Yn y lle cyntaf, mae’r Cynulliad yn cael gwybod am bob cynnig a gyhoeddir gan y Comisiwn Ewropeaidd i’w ystyried drwy gyfrwng rhestr (sy’n cael ei hadnabod fel y “rhestr sypiau”). Anfonir hon gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig at Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad er gwybodaeth.

¡  Wedyn bydd yr adran berthnasol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn paratoi Memorandwm Esboniadol (EM) ar sail y cynigion yn y rhestr sypiau a hynny fel arfer o fewn pedair i chwe wythnos ar ôl hysbysiad cychwynnol y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Mae pob EM yn cynnwys asesiad o effaith y cynigion ar bolisïau (gan gynnwys a yw’r adran o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn credu bod y cynnig yn codi unrhyw bryderon ynglŷn â sybsidiaredd). Mae copïau o bob EM yn cael eu hanfon at y Cynulliad drwy’r Gwasanaeth Ymchwil.

¡  Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn hidlo’r EMs sy’n dod i law i weld a yw’r cynigion dan sylw yn gynigion ynglŷn â deddfwriaeth neu beidio[3] ac a ydyn nhw’n cynnwys materion a allai fod o ddiddordeb i’r Cynulliad (hynny yw, yn ymwneud â materion datganoledig).

¡  Wedyn mae’r EMs hynny sy’n ymwneud â chynigion ynglŷn â deddfwriaeth ac sy’n ymdrin â materion sydd o ddiddordeb i’r Cynulliad yn cael eu gwirio ymhellach gan swyddogion o Wasanaethau Cyfreithiol y Cynulliad, Swyddfa Brwsel a’r Gwasanaeth Ymchwil i weld a ydyn nhw’n codi unrhyw bryderon posibl o ran sybsidiaredd.

¡  Os bydd cynnig yn codi pryderon o safbwynt sybsidiaredd, bydd swyddogion y Cynulliad yn tynnu sylw’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ato ar unwaith. Gofynnir i’r Aelodau ystyried a ddylai’r Pwyllgor ofyn i’r naill Dŷ neu’r llall neu i’r ddau Dŷ yn San Steffan roi ‘barn resymedig’ ar y cynnig neu beidio.

¡  Wedyn mae’r cynigion hynny sy’n ymwneud â deddfwriaeth ac sy’n ymwneud â materion datganoledig ond nad ydyn nhw’n codi pryderon o ran sybsidiaredd yn cael eu coladu mewn adroddiad monitro sy’n cael ei gynhyrchu gan y Gwasanaeth Ymchwil, sef adroddiad sy’n cael ei ystyried fel papur i’w nodi gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ystod pob tymor ym mlwyddyn y Cynulliad (Hydref [Medi-Rhagfyr], Gwanwyn [Ionawr-Ebrill] a Haf [Mai–Awst]).

Mae’r adroddiad hwn felly yn cynnwys trosolwg cyffredinol o’r cynigion deddfwriaethol drafft gan yr UE a daeth i law Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad rhwng Medi 2013 ac Ebrill 2014. Mae’n darparu rhagor o wybodaeth am y cynigion hyn a nodwyd gan swyddogion y Cynulliad am eu bod yn ymwneud â deddfwriaeth ac â materion datganoledig.

Ond, sylwch mai cynigion ynglŷn â deddfwriaeth sy’n cael eu monitro’n bennaf yn yr adroddiad hwn. Ar y cyfan nid yw'n cynnwys manylion cynigion sydd heb fod yn ddeddfwriaethol ond a allai fod yn berthnasol i waith y Cynulliad. Mae’r rheiny’n cael eu monitro gan y Gwasanaeth Ymchwil ar wahân.

 

3.        Trosolwg o gynigion drafft yr UE a ddaeth i law (Medi 2013-Ebrill 2014)

Cafodd Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad gyfanswm o 548 o EMs gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â chynigion gan yr UE oddi wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig rhwng 1 Medi 2013 a 30 Ebrill 2014.

O’r rhain, nododd swyddogion y Cynulliad fod 15 EM yn ymwneud â deddfwriaeth ac o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Wedi cael eu dadansoddi ymhellach gan swyddogion yng Ngwasanaeth Cyfreithiol y Cynulliad, Swyddfa Brwsel a’r Gwasanaeth Ymchwil, ni chafodd yr un o’r xx o gynigion ei nodi fel un a oedd yn codi pryderon o safbwynt sybsidiaredd. Ceir manylion y cynigion hyn isod.

3.1.         Cynigion deddfwriaethol yr UE nad oedden nhw’n codi pryderon o ran sybsidiaredd

 

Dyddiad yr e-bost

Teitl a disgrifiad

 

06/09/2013

Cynnig ar gyfer Rheoliad  gan Senedd Ewrop a’r Cyngor yn diwygio Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 ynghylch cymorth i ddatblygu gwledig oddi wrth Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (COM(2013)521)

 

Byddai'r rheoliad arfaethedig yn caniatáu i’r Aelod-wladwriaethau sy'n profi anawsterau ariannol difrifol dderbyn cynnydd mewn cymorth ariannol o’r gronfa o 10 pwynt canran uwchlaw’r trothwy arferol a ganiateir tan 31 Rhagfyr 2015.

 

24/09/2013

Cynnig ar gyfer Rheoliad  gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch atal a rheoli cyflwyniad a lledaeniad rhywogaethau estron ymledol.  (COM(2013)620)

 

Mae’r cynnig yn ei gwneud yn ofynnol i’r Aelod-wladwriaethau atal rhywogaethau estron ymledol rhag cael eu cyflwyno a’u lledaenu, sef rhywogaethau y cytunir ar restr ohonyn nhw o fewn 12 mis ar ôl i'r rheoliad ddod i rym. 

 

03/10/2013

Cynnig ar gyfer Rheoliad  gan Senedd Ewrop a’r Cyngor yn diwygio Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 718/1999 ynghylch polisi’r Gymuned ar allu’r fflyd i hybu trafnidiaeth ar ddyfrffyrdd mewndirol.   (COM(2013)621)

 

Sefydlodd Rheoliad (EC) Rhif 718/1999 Gronfa Dyfrffyrdd Mewndirol a oedd i’w defnyddio mewn achosion lle ceid ‘aflonyddu difrifol ar y farchnad’ yn y farchnad dyfrffyrdd mewndirol ac i wella amgylchedd gwaith y diwydiant.  Nid yw’r gronfa wedi’i defnyddio eto a nod y diwygiad hwn ar Reoliad 718/1999 yw ehangu cwmpas y gronfa.  Mae’n gam cyntaf tuag at roi cynllun gweithredu Ewropeaidd diwygiedig (“NIAIDES II”) ar waith er mwyn symud rhagor o nwyddau i ddyfrffyrdd yr UE a lleihau allyriadau carbon. 

Heb ei ddatganoli.

 

14/10/2013

Cynnig ar gyfer Rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch sylweddau seicoweithredol newydd. (HO – disgwylir yr EM erbyn 8 Hydref)

Nod y Rheoliad drafft fyddai cryfhau gallu’r UE i ymateb i sylweddau seicoweithredol newydd a chaniatáu i sylweddau niweidiol gael eu tynnu oddi ar y farchnad yn gyflym.  Byddai’n disodli offeryn sydd eisoes yn bod, Penderfyniad y Cyngor 2005/387/JHA. 

Heb ei ddatganoli.

 

28/10/2013

Cynnig ar gyfer Argymhelliad gan y Cyngor ynghylch hybu iechyd – gwella gweithgarwch corfforol ar drws sectorau. (DOH/DCMS – disgwylir yr EM erbyn 24 Medi)

Nod yr argymhelliad hwn yw mynd i'r afael â diffygion wrth ddatblygu a gweithredu polisïau gweithgarwch corfforol sy’n gwella iechyd (HEPA) gan yr Aelod-wladwriaethau.  Mae'r rhain yn cynnwys yr angen i ddatblygu ymagweddau traws-sectoraidd a mabwysiadu amcanion a nodau clir ar gyfer HEPA, a monitro a gwerthuso polisïau a chyfraddau HEPA.

Heb fod yn ddeddfwriaethol.

 

13/11/2013

Cynnig ar gyfer Rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor yn sefydlu Cyfleuster Cysylltu Ewrop.   (COM(2013)665)

Yn 2011 cynigiodd y Comisiwn Ewropeaidd greu offeryn integredig newydd ar gyfer buddsoddi ym mlaenoriaethau seilwaith yr UE mewn trafnidiaeth, ynni a thelathrebu: "Cyfleuster Cysylltu Ewrop”.

 

22/11/2013

Cynnig ar gyfer Rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1166/2008 ynghylch arolygon strwythur ffermydd a'r arolwg o ddulliau cynhyrchu amaethyddol, o ran fframwaith ariannol y cyfnod 2014-2018.   (COM(2013)757)

 

Mae arolwg cymunedol ar strwythur daliadau amaethyddol yn ofynnol o dan Reoliad (EC) 1166/2008 yn 2016.  Mae’r arolygon hyn yn cynnwys cyfraniad ariannol gan y Comisiwn Ewropeaidd at y treuliau a ysgwyddir gan yr Aelod-wladwriaethau.  Mae’r gwelliant arfaethedig yn cadw lefel y cyfraniad yr un peth ar gyfer yr Aelod-wladwriaethau presennol ac yn cyflwyno cyfraniad newydd ar gyfer Croatia

 

22/11/2013

Cynnig ar gyfer Cyfarwyddeb newydd gan Senedd Ewrop a’r Cyngor yn diwygio Cyfarwyddeb 94/62/EC ynghylch pecynnau a gwastraff pecynnau er mwyn lleihau nifer y bagiau siopa plastig ysgafn a ddefnyddir. (COM(2013)761)

 

Mae’r cynnig yn ei gwneud yn ofynnol i’r Aelod-wladwriaethau gymryd mesurau i leihau defnyddio bagiau siopa plastig ysgafn, o drwch diffiniedig, o fewn dwy flynedd ar ôl i'r Mesur ddod i rym.  Mae Cymru wedi cyflwyno tâl am yr holl fagiau untro yn y pwynt gwerthu ac mae'r mesur hwn yn ymestyn y tu hwnt i’r bagiau siopa plastig ysgafn a gynhwysir yng nghynnig y Comisiwn. Bydd yn ddiddorol gweld sut mae'r ddeddfwriaeth derfynol yn effeithio ar ddeddfwriaeth bresennol Cymru (os bydd yn effeithio arni o gwbl) ac felly mae hyn yn codi cwestiwn ynglŷn â 'chymesuredd' y mesurau arfaethedig yn hytrach na chwestiwn 'sybsidiaredd'.

 

11/12/2013

Cynnig ar gyfer Rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth a mesurau hybu ar gyfer cynhyrchion amaethyddol ar y farchnad fewnol ac mewn trydydd gwledydd.   (COM(2013)812)

 

Nod y cynnig yw diwygio'r ffyrdd y mae cyllid yr UE yn hybu cynhyrchion amaethyddol yn yr UE ac mewn trydydd gwledydd.   Câi ystod o fesurau eu cyflwyno a fyddai'n sicrhau bod mesurau hybu’n cael eu targedu’n well mewn marchnadoedd mewnol ac allanol drwy ddatblygu a gweithredu strategaeth, ymestyn y rhestr o fuddiolwyr a buddiolwyr posibl, hybu rhaglenni sy’n cynnwys mwy nag un Aelod-wladwriaeth, a defnydd cyfyngedig ar darddiadau a brandiau. Byddai cyllideb y gronfa’n cael ei chynyddu o €60m (£51m[4]) yn 2013 i €200m (£170m) erbyn 2020.

 

09/01/2014

Cynnig ar gyfer Argymhelliad gan y Cyngor ynghylch Fframwaith Ansawdd i Hyfforddeiaethau.  (COM(2013)857)

Mae'r Argymhelliad yn gofyn i’r Aelod-wladwriaethau sicrhau bod hyfforddeiaethau marchnad-agored (h.y. y rhai sy'n cynnwys yr hyfforddai a'r cyflogwr yn unig ac nid unrhyw sefydliad arall) yn cydymffurfio â set o ofynion ansawdd.  Byddai’r cynnig yn cynnwys yn bennaf yr hyn y byddai’r Deyrnas Unedig yn ei alw yn 'interniaethau i raddedigion', ond fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd gallai gynnwys unrhyw fath o leoliad profiad gwaith nad yw’n rhan o addysg ffurfiol neu gwrs galwedigaethol.

Heb fod yn ddeddfwriaethol

 

14/01/2014

Cynnig ar gyfer Cyfarwyddeb gan y Cyngor ynghylch gosod bwyd o glonau anifeiliaid ar y farchnad.  (COM(2013)893)

 

Nod y cynnig yw gwahardd marchnata clonau anifeiliaid ac embryonau ac unrhyw fwyd a gynhyrchir ohonynt. 

 

14/01/2014

Cynnig ar gyfer Cyfarwyddeb gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch clonio anifeiliaid o rywogaethau’r fuwch, y mochyn, y ddafad, yr afr a’r ceffyl a gedwir ac a atgenhedlir at ddibenion ffermio.  (COM(2013)892)

 

Nod y cynnig yw gwahardd clonio masnachol ar rywogaethau anifeiliaid fferm traddodiadol.  Serch hynny, bydd y cynnig yn caniatáu parhau i ddefnyddio deunydd atgenhedlu o glonau at ddibenion bridio da byw; ymchwil wyddonol ar glonio a defnyddio clonio er mwyn cadw bridiau prin neu rywogaethau sydd mewn perygl; ac ar gyfer digwyddiadau chwaraeon neu ddigwyddiadau diwylliannol. 

 

15/01/2014

Cynnig ar gyfer Rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch bwydydd newydd.  (COM(2013)894)

Nod y rheoliad arfaethedig yw diweddaru'r rheoliad presennol ynghylch bwydydd newydd ac mae’n cynnwys eglurhad o'r diffiniad o fwyd newydd a gweithdrefn awdurdodi symlach ar gyfer bwydydd newydd.

 

21/01/2014

Cynnig ar gyfer Cyfarwyddeb gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyfyngu allyriadau llygrynnau penodol i’r aer o safleoedd hylosgi canolig.  (COM(2013)919)

 

Byddai Cyfarwyddeb newydd yn rheoleiddio allyriadau o safleoedd hylosgi sydd â mewnbwn thermol o rhwng 1 a 50MW. Byddai hyn yn cynnwys safleoedd ynni ar gyfer adeiladau mawr a gosodiadau diwydiannol bach.  Mae’r Gyfarwyddeb arfaethedig yn rhan o Becyn Polisi Aer Glân a fabwysiadwyd gan y Comisiwn ar 18 Rhagfyr 2013.

 

21/01/2014

Cynnig ar gyfer Cyfarwyddeb gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch lleihau allyriadau cenedlaethol llygrynnau atmosfferig penodol ac yn diwygio Cyfarwyddeb 2003/35/EC.  (COM(2013)920)

 

Mae’r Gyfarwyddeb arfaethedig yn rhan o Becyn Polisi Aer Glân a fabwysiadwyd gan y Comisiwn ar 18 Rhagfyr 2013.  Datblygwyd y pecyn yn sgil adolygiad o'r polisi ansawdd aer gan y Comisiwn a ddechreuodd yn 2011. Nod y pecyn yw diweddaru’r ddeddfwriaeth bresennol a lleihau eto ar allyriadau niweidiol o ddiwydiant, traffig, safleoedd ynni ac amaethyddiaeth, er mwyn lleihau eu heffaith sylweddol ar iechyd a'r amgylchedd

 

06/02/2014

Cynnig ar gyfer Rheoliad gan y Cyngor yn nodi’r lefelau uchaf a ganiateir o halogiad ymbelydrol mewn bwyd a phorthiant yn sgil damwain niwclear neu unrhyw achos arall lle ceir argyfwng radiolegol.  (COM(2013)943)

 

Mae’r cynnig yn cyfuno tri rheoliad presennol: Rheoliad y Cyngor (Euratom) Rhif 3954/87, Rheoliad y Comisiwn (Euratom) Rhif 944/89 a Rheoliad y Comisiwn (Euratom) Rhif 770/90.  Mae hefyd yn diweddaru'r weithdrefn ar gyfer rhoi lefelau halogiad ymbelydrol ar waith yn sgil argyfwng niwclear neu radiolegol.

 

10/03/2014

Cynnig ar gyfer Argymhelliad gan y Cyngor ynghylch Egwyddorion Ansawdd Twristiaeth i Ewrop.  (COM)(2014)85)

 

Nod yr argymhelliad hwn yw sefydlu egwyddorion ansawdd i sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau twristiaeth gan ddangos ansawdd cyrchfannau twristaidd yn yr EU i ddefnyddwyr.

Heb fod yn ddeddfwriaethol

 

08/04/2014

Cynnig ar gyfer Rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig, yn diwygio Rheoliad (EU) Rhif XXX/XXX Senedd Ewrop a’r Cyngor a [Rheoliad Rheolaethau Swyddogol] y Cyngor ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 834/2007.  (COM(2014)180

 

Mae'r cynnig yn cynnwys rheoliad ac Asesiad Effaith newydd sy'n cwmpasu cynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig. Ceir Cynllun Gweithredu perthynol hefyd sy'n ystyried dyfodol cynhyrchu organig. Mae’r dogfennau wedi'u cynhyrchu yn sgil adolygiad gan y Comisiwn o'r fframwaith o ddeddfau a pholisïau ar gyfer cynhyrchu organig ledled yr UE.  Does dim materion sybsidiaredd yn codi, ond fe fydd diddordeb yng Nghymru yng nghynnwys y cynigion a 'chymesuredd' y mesurau arfaethedig.

 

 



[1] Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, Consolidated version of the Treaty on European Union, C83/204,30 Mawrth 2010

[2] Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, Protocol on the Application of the Principles of Subsidiarity and Proportionality, C310/207, 16 Rhagfyr 2004

[3] Dim ond o ran cynigion drafft sy’n ymwneud â deddfwriaeth y caniateir codi pryderon o ran sybsidiaredd.

[4]  Mae pob ffigur ariannol wedi’i darparu drwy ddefnyddio cyfradd gyfnewid Swyddfa’r Cabinet ar gyfer Tachwedd 2013